Etholiadau 2022
Mynnwch fod ymgeiswyr eich etholiadau lleol yn cefnogi’r galw am ddadfuddsoddi
Prefer an English language version? Click here to read this page in English.
Dydd Iau’r pumed o Fai, bydd etholiadau’r cynghorau lleol yn cael eu cynnal ledled y DU.
Mae cynghorwyr yn ymgeisio mewn etholiadau yn holl awdurdodau lleol Cymru a’r Alban ac mewn mwy na chant o awdurdodau ledled Lloegr, gan gynnwys holl fwrdeistrefi Llundain.
Er gwaethaf i dri chwarter ohonynt ddatgan bod argyfwng hinsawdd, mae ein hawdurdodau lleol yn parhau i fuddsoddi yn agos i £10 bn yn y cwmnïau sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd ac sy’n elwa ohono. Mae’r etholiadau sydd i ddod yn cynnig cyfle heb ei ail i annog gwleidyddion lleol i ddatgan yn gyhoeddus eu cefnogaeth i ddadfuddsoddi o danwyddau ffosil.
Mae buddsoddi pensiynau lleol mewn tanwyddau ffosil yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd a llygredd aer, gan wrth-ddweud ymrwymiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn rhoi pensiynau’r aelodau yn y fantol ac mae buddsoddi mewn tanwyddau ffosil bellach yn risg ariannol tymor hir i fuddsoddwyr.
Allwch chi gynnig help llaw er mwyn cael ymgeiswyr i lofnodi addewid UK Divest?
“Pe bawn yn cael fy ethol, byddwn yn gwneud y cyfan y gallaf er mwyn gwneud yn siŵr bod cynghorau yn rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil ac yn buddsoddi yn y trawsnewidiad cyfiawn i economi ddi-garbon.”
Cam 1
Canfod pwy yw eich ymgeiswyr lleol
Rhowch eich cod post ar wefan Who Can I Vote For? er mwyn gweld os oes etholiadau yn cael eu cynnal yn agos atoch chi ac i gael manylion cyswllt unrhyw ymgeisydd sy’n ymgeisio yn eich ardal chi.
Cam 2
Email your candidates
Defnyddiwch ein templed e-bost t i gysylltu â’r ymgeiswyr, gan wneud yn siŵr eich bod yn atodi briff yr ymgeisydd a’r ddolen ar gyfer y ffurflen y gallent ei defnyddio er mwyn cofrestru eu haddewid.
Cam 3
Gofynnwch i’ch ffrindiau wneud yr un fath
Use the share links below to ask your friends and Defnyddiwch y dolenni rhannu isod er mwyn gofyn i’ch ffrindiau ac aelodau o’ch teulu i gysylltu â’u hymgeiswyr nhw hefyd.
Cwestiynau cyffredin
Pam na allaf ganfod y wybodaeth am fy ymgeiswyr?
Nid yw’r wybodaeth am ymgeiswyr yn cael ei chyhoeddi yn swyddogol tan 31 Mawrth yn yr Alban a’r chweched o Ebrill yn Lloegr a Chymru. Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl y dyddiad hwn, gall data’r ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r cynghorau lleol fod yn anghyflawn neu fod yn anodd cael gafael arno.
Dyma ychydig o awgrymiadau os ydych chi’n cael anhawster wrth geisio canfod y wybodaeth angenrheidiol er mwyn cysylltu â’r ymgeiswyr:
- Chwiliwch am restr o’r ymgeiswyr sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan eich cyngor lleol.
- Os oes gennych chi enw ymgeisydd ond nid oes gennych eu cyfeiriad e-bost, chwiliwch ar-lein er mwyn darganfod ffordd arall o gysylltu â nhw. Er enghraifft, wrth chwilio a theipio geiriau tebyg i "John Smith Leicester Westcotes 2022 Council Election" efallai y byddwch yn dod ar draws cyfrif Facebook neu Twitter yr ymgeisydd, neu wefan ar gyfer eu hymgyrch a fyddai’n eich galluogi i gysylltu mewn ffordd wahanol (h.y. wrth anfon neges yn uniongyrchol).
- Byddai cysylltu â’r swyddog sy’n gyfrifol am yr etholiadau yn eich cyngor er mwyn gweld a fyddent yn gallu rhannu unrhyw fanylion cyswllt sydd yn eu meddiant ac er mwyn pasio neges ymlaen ar eich rhan, yn fodd o gysylltu ar y funud olaf.
- Yn y pen draw, efallai ei bod yn amhosib canfod unrhyw ffordd o gysylltu â nhw, yn arbennig os nad ydynt yn meddu ar gyfrifon personol ar-lein nac yn weledol ar y cyfryngau cymdeithasol ac os nad ydynt wrthi’n ymgyrchu’n frwd.
Beth allaf wneud i annog mwy o ymgyrchwyr i lofnodi’r addewid?
Os ydych chi’n aelod o grŵp hinsawdd lleol neu beidio, mae sawl ffordd y gallwch roi cymorth er mwyn annog eraill i lofnodi’r addewid yn eich ardal:
- Cysylltwch â phleidiau'r etholaeth neu ganghennau lleol - Un ffordd hawdd o gael llawer o lofnodyddion ar gyfer eich addewid ar yr un pryd ydy wrth gysylltu â changhennau pleidiau yn eich ardal a gofyn iddynt annog eu holl ymgeiswyr sy’n ymgeisio yn yr etholiadau i gefnogi’r addewid. Gallwch addasu’r templed e-bost ar gyfer ymgeiswyr. Er mwyn canfod cangen eich pleidiau lleol, teipiwch enw’r lle rydych chi’n byw ar y rhyngrwyd, yna teipiwch enw’r blaid neu bleidiau yr hoffech eu canfod - er enghraifft, "Glasgow SNP", "Glasgow Conservative Party", neu "Glasgow Green Party".
- Cynhaliwch ymgyrch er mwyn hyrwyddo’r addewid - Gallai hyn fod yn unrhyw weithgaredd gyda’r nod o gael mwy o bobl yn yr ardal leol i gysylltu â’u hymgeiswyr gan annog mwy o addewidion. Gallwch wneud hyn ar-lein wrth gyhoeddi amser y gallai pobl alw, e-bostio neu anfon neges ar Twitter/Facebook at eu hymgeiswyr yn gofyn iddynt wneud addewid. Neu, opsiwn arall fyddai cael stondin mewn rhan brysur o’r dref a siarad â phobl ynghylch y ffyrdd y gallent ofyn i’w hymgeiswyr lofnodi’r addewid.
- Cynhaliwch “hystingau” lleol - Un o’r ffyrdd y gallwch roi hwb i ymgeiswyr etholiadau mewn perthynas â’u safiad dros y newid yn yr hinsawdd ydy wrth gynnal digwyddiad hysting. Hysting ydy trafodaeth ymysg panel o ymgeiswyr yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad a phan mae ymgeiswyr yn dadlau ynghylch polisïau ymgeiswyr ac yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. Mae hefyd yn ffordd wych o sicrhau bod ymgeiswyr yn ymrwymo, gan adeiladu perthynas gyda’r cynrychiolwyr a fydd o bosib yn cael eu hethol. Gallwch gynnal hystingau sy’n ymwneud yn benodol â dadfuddsoddi, neu er mwyn trafod yn fras sut bydd ymgeiswyr yn mynd i’r afael â’r newid hinsawdd.
- Darllenwch Ganllaw Cyfeillion y Ddaear ar sut i gynnal hysting neu gwyliwch y gweminar hwn.
- Gwnewch blacard sy’n hoelio sylw— Os yw eich grŵp yn teimlo’n greadigol, gall gwneud placard fod yn weithgaredd grŵp gwych. Gallwch wahodd ymgeiswyr sydd eisoes wedi gwneud yr addewid i dynnu eu lluniau gyda’ch baner chi a’i ddefnyddio er mwyn hyrwyddo’r ymgyrch i ymgeiswyr eraill ac i annog eich cefnogwyr i weithredu.
- Os nad ydych chi yn yr hwyliau i wneud celf a chrefft, mae gennym hefyd lu o asedau’r cyfryngau cymdeithasol a chardiau addewid y gellir eu hargraffu sydd cystal pob tamaid! Cliciwch yma.
Rwy’n sefyll fel ymgeisydd, sut gallaf arwyddo’r addewid?
Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd, yn syml ddigon llenwch y ffurflen fer hon er mwyn cofrestru eich addewid. Mae dadfuddsoddi yn fater trawsbleidiol sy’n boblogaidd gyda'r cyhoedd, yn foesol gyfiawn, ac sy’n gadarn yn ariannol.
Os oes nifer o ymgeiswyr yn ymgeisio yn yr etholiadau o fewn eich plaid chi, beth am annog cymaint â phosib i ymuno â chi wrth wneud addewid i gefnogi dadfuddsoddi o danwyddau ffosil.
Rwy’n sefyll fel ymgeisydd, beth allaf wneud os caf fy ethol?
Mae gan bob cynghorydd y pŵer i godi ymwybyddiaeth o ddadfuddsoddi, pa bynnag bwyllgor rydych arno a pha bynnag blaid rydych yn rhan ohoni — boed hynny’n cyflwyno cynigion, neu’n syml ddigon yn siarad â chynghorwyr eraill am y mater hwn. Cliciwch yma er mwyn darllen enghreifftiau o'r ffyrdd y gallwch weithredu unwaith rydych wedi cael eich ethol.
Os ydych chi’n edrych am hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd, gwyliwch weminar Cyfeillion y Ddaear ar sut y gall cynghorwyr lleol roi cymorth wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Rwyf eisoes wedi ymchwilio i ymgeiswyr yn fy ardal, sut gallaf rannu fy narganfyddiadau ag eraill?
Mae’r Clwb Democratiaeth (y bobl sydd tu ôl i wefan WhoCanIVoteFor.co.uk) yn dibynnu ar gefnogaeth pobl fel chi er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bleidleiswyr bopeth sydd angen arnynt i wneud penderfyniad ar ddiwrnod yr etholiad. Bydd eich cyfraniad yn sicrhau bod pobl eraill yn eich ardal yn gallu cysylltu ag ymgeiswyr etholiadau ynghylch addewid UK Divest neu ynghylch materion pwysig eraill cyn yr etholiad, boed y cyfraniad hwnnw yn mapio eich ymgeiswyr lleol neu’n gwneud ymchwil yn y diwrnodau neu’r wythnosau i ddod.
Sut i gyfrannu
Gellir ychwanegu gwybodaeth am ymgeiswyr, gan gynnwys manylion cyswllt, wrth wneud cyfrif ar Safle torfoli'r Clwb Democratiaeth. Os ydych chi eisiau ychwanegu gwybodaeth ar ardal neu ward benodol, gallwch ganfod rhestr o holl etholiadau Mai’r pumed ar y tab etholiadau. Os oes gennych lawer iawn o wybodaeth (e.e. rhestr o gyfeiriadau e-bost yr ymgeiswyr) gallwch hefyd anfon e-bost yn uniongyrchol at y tîm: hello@democracyclub.org.uk.
Yr amser gorau i ymyrryd ydy wedi i’r cyfnod enwebu ddod i ben. Ewch i’r safle torfoli am 4pm neu wedi 4pm ar y chweched o Ebrill er mwyn gweld pa dasgau sydd angen eu cwblhau.
Pleidiau
Ydych chi eisiau rhannu gwybodaeth am blaid wleidyddol? Mae maniffestos pleidiau gwleidyddol y cyngor cyfan yn cael eu casglu ar wahân – cyflwynwch nhw i ni yn defnyddio'r ffurflen hon.
Hystingau
Mae WhoCanIVoteFor.co.uk hefyd yn arddangos gwybodaeth am yr hystingau cyhoeddus y gellir eu mynychu. Gellir cyflwyno hystingau i ni yn defnyddio'r ffurflen hon neu wrth eu hychwanegu’n uniongyrchol at y daflen hystingau.
Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges at y tîm ar hello@democracyclub.org.uk.
Hyfforddiant a digwyddiadau
Dadfuddsoddi ac Etholiadau 2022: Briff ar gyfer Actifyddion
Dydd Llun, y pedwerydd o Ebrill, 18:30-20:00
Yn y lansiad ymgyrch hwn ar gyfer actifyddion, byddwch yn canfod gwybodaeth am yr addewid, sut i’w ddefnyddio a pha gefnogaeth, adnoddau a hyfforddiant y byddwn yn eu cynnig er mwyn rhoi cymorth i chi wrth i chi ymgymryd â’ch ymgyrchoedd addewid lleol. Yn ogystal â hyn, cewch y cyfle i gydweithio a rhannu syniadau creadigol er mwyn sicrhau addewidion lleol gydag actifyddion eraill ledled y DU.
Etholiadau 2022: Hyfforddiant Tanio Syniadau ar gyfer Actifyddion
Dydd Iau, y seithfed o Ebrill, 18:30-20:00
Tanio Syniadau: tacteg a yrrir gan bobl er mwyn cael pobl at ei gilydd mewn un lle er mwyn sefydlu arweinyddiaeth leol a hybu eraill i weithredu yn eich ymgyrch.
Ymunwch â’r gweithdy hwn er mwyn dysgu rhagor am y dacteg “tanio syniadau”, er mwyn cofrestru er mwyn arwain eich sesiwn tanio sYmunwch â’r gweithdy hwn er mwyn dysgu rhagor am y dacteg “tanio syniadau”, er mwyn cofrestru er mwyn arwain eich sesiwn tanio syniadau eich hun, ac er mwyn cael syniadau er mwyn sicrhau mwy o addewidion i ddadfuddsoddi o danwyddau ffosil yn eich ardal yn ystod y tymor etholiadol hwn.
Ymgeiswyr Etholiadau 2022: Popeth sydd Angen i chi ei wybod am Waredu
Dydd Mawrth 26 Ebrill, 18:30-20:00
AR GYFER YMGEISWYR: Anfonwch wahoddiad i’r digwyddiad, at unrhyw ymgeisydd/cynghorydd sy’n eistedd ar ben clawdd mewn perthynas â chofrestru’r addewid, er mwyn iddynt ganfod rhagor am y dadleuon moesol a moesegol o blaid dadfuddsoddi a sut gallent lofnodi’r addewid.
Yn cynnwys cyflwyniadau gan Mark Campanale (Carbon Tracker) a chynghorydd sy’n cynrychioli cronfa sydd o flaen y gad mewn perthynas â dadfuddsoddi.
Ymgeiswyr sydd wedi gwneud addewid
Ymwadiad: rydym yn gwneud ein gorau i wirio’r wybodaeth rydym yn ei derbyn, fodd bynnag, weithiau gwneir camgymeriadau. Os yw eich enw yn cael ei nodi yn y rhestr uchod ond nid ydych wedi llofnodi’r addewid, cysylltwch â ni ar ukdivest@gmail.com