Templed e-bost ar gyfer ymgeiswyr etholiad
Mae’r templed e-bost canlynol yn gallu cael ei ddefnyddio er mwyn dechrau trafodaeth â’ch ymgeiswyr lleol ac wrth ddiogelu addewidion.
Mae croeso i chi addasu’r templed cymaint ag y dymunwch – er enghraifft, os ydych yn unigolyn yn anfon eich llythyr, gallwch ddileu unrhyw gyfeiriadau a geir at fod yn rhan o grŵp.
Pwnc: ydych chi’n fodlon ymrwymo i amddiffyn pensiynau lleol a’r blaned?
Annwyl [nodwch enw’r ymgeisydd],
Rwy’n ysgrifennu ar ran [eich grŵp dadfuddsoddi/hinsawdd, os ydych chi’n aelod o grŵp o’r math]. Rydym yn griw o breswylwyr o ardal [nodwch eich ardal] sydd wedi bod yn ymgyrchu er mwyn sicrhau bod [nodwch enw cronfa bensiwn eich cyngor (gallwch ganfod hyn yma)] yn rhoi’r gorau i fuddsoddi arian gweithwyr lleol mewn tanwyddau ffosil sy’n dinistrio’r blaned. [Gallwch gynnwys yn ogystal, amcangyfrif o werth buddsoddiadau ffosil ar gyfer eich cronfa, sydd ar gael yma]
Mae buddsoddi pensiynau lleol mewn tanwyddau ffosil yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd ac at lygredd aer, gan wrth-ddweud ymrwymiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wrth fynd i’r afael â’r newid hinsawdd. Hefyd, mae’n rhoi pensiynau’r aelodau yn y fantol gan fod buddsoddiad tanwyddau ffosil yn risg ariannol tymor hir i fuddsoddwyr.
Er mwyn osgoi hyn ac er mwyn cymryd cam tuag at ddyfodol digarbon rydym angen dod â thanwyddau ffosil i ben yn raddol. Mae hyn yn golygu ein bod ni angen cyfyngu ar echdyniad a chynhyrchiad tanwyddau ffosil yn rhan o drawsnewidiad cyfiawn a rheoledig. Os ydym am gyflawni’r targedau sydd wedi cytuno arnynt yn fyd-eang er mwyn lleihau cynhesu byd-eang, yna mae llawer mwy o gronfeydd tanwydd ffosil wrth gefn nac sy’n bosib eu llosgi. Er hynny, mae’r cwmnïau tanwydd ffosil mae ein pensiynau ni yn buddsoddi ynddynt yn parhau i ehangu.
Mae sefydliadau, megis cronfeydd pensiwn y llywodraeth leol, yn gallu cymryd camau ymarferol wrth, dros gyfnod synhwyrol o amser, symud eu buddsoddiadau uniongyrchol a’u buddsoddiadau anuniongyrchol o’r diwydiant tanwydd ffosil. Mae cynghorau Caerdydd, Waltham Forest, Southwark, Islington, a Lambeth eisoes wedi ymrwymo i ddadfuddsoddi eu pensiynau.
Rydym o’r farn bod yr etholiad hwn yn gyfle perffaith i’n cyngor symud eu cynlluniau ar gyfer arweinyddiaeth hinsawdd trawiadol gam ymhellach wrth ymrwymo i beidio â buddsoddi yn llygrwyr mwyaf y byd, ac yn hytrach, rhoi cynllun yn ei le ar gyfer buddsoddi’r arian hwn yn yr economi lleol.
[Rwy’n/Rydym] yn ysgrifennu atoch er mwyn gofyn i chi gytuno i gefnogi’r addewid canlynol, a hynny’n gyhoeddus:
“Pe bawn i’n cael fy ethol, byddwn yn gwneud y cyfan y gallaf i atal cronfeydd pensiwn cynghorau lleol rhag buddsoddi mewn tanwyddau ffosil ac yn buddsoddi yn y trawsnewidiad cyfiawn i economi digarbon.”
Os ydych chi’n cytuno, llenwch y ffurflen fer hon a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu ar y rhestr gyhoeddus o addewidion ar divest.org.uk/etholiadau-2022. Gallwch hefyd ganfod asedau cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau ar y ddolen hon er mwyn hyrwyddo eich addewid ac annog ymgeiswyr eraill i wneud yr un fath.
Os oes gennych gwestiynau pellach yn ymwneud â hyn, mae croeso i chi i gysylltu â mi neu aelod o dîm UK Divest ar ukdivest@gmail.com. Rwyf hefyd wedi atodi canllaw fer i ddadfuddsoddi sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch y mater.
Pe byddech yn cael eich ethol, [byddwn/byddem] wrth ein boddau yn parhau i drafod sut y gallwn ni gydweithio er mwyn sicrhau bod ein cynghorau yn arwain y gad wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Yn gywir,
[Eich enw, rôl ac enw eich grŵp]